<p>Mae <i>Transistor</i> yn ap radio mor syml na fydd yn plesio pawb. Nid oes ganddo'r gallu i ddarganfod gorsafoedd. Dyw <i>Transistor</i> ond yn cynnig dewis chwilio syml iawn ac yn mewnforio dolenni ffrydio sain pan fyddi di'n tapio arnynt mewn porwr.</p><p><br /><b>CWESTIYNAU CYFFREDIN</b></p><dl><dt>SUT YDW I'N YCHWANEGU GORSAF RADIO?</dt><dd>Mae tri ffordd i ychwanegu gorsaf radio i Transistor: Defnyddio'r modd Chwilio, ychwanegu cyfeiriad ffeil rhestr chwarae (M3U, PLS), gosod cyfeiriad ffrwd.</dd><dt>O BLE DAW CANLYNIADAU'R CHWILIAD GORSAFOEDD RADIO?</dt><dd>Mae Transitor yn chwilio cronfa ddata ar-lein radio-browser.info Gellir helpu'r gymuned radio-browser.info gan ychwanegu gorsaf sydd ar goll i'w cronfa data (http://www.radio-browser.info/gui/#!/add). </dd><dt>SUT ALLAF CURADU'R RHESTR ORSAFOEDD RADIO?</dt><dd>Defnyddia'r ystum llithro i ddileu gorsaf radio o'r rhestr. Gellir galluogi dewisiadau golygu pellach yn y Gosodiadau. Os wedi'i alluogi, tapia a dal gorsaf radio i olygu ei enw, ei delwedd neu dolen ei ffrwd.</dd></dl>
